Pob Dydd Mercher 4:00yh – 5:30yh
20/01/20 – 24/03/2020
Dim gwers dros hanner tymor (17 a 24/02/20)
Dyma’r cwrs cyntaf o’i fath trwy gyfrwng y Gymraeg, wedi ei gynllunio’n arbennig ar gyfer arweinwyr addysg yng Nghymru. Darperir y cwrs fel rhan o brosiect peilot wedi ei noddi gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (AGAA).
Byddwch yn dysgu ar-lein trwy ddull ‘webinar’ o dan arweiniad athro meddwlgarwch profiadol. Wrth ddefnyddio meddalwedd ZOOM.US byddwch yn ymuno gyda phrifathrawon ledled Cymru mewn rhith-ddosbarth o leoliad sy’n gyfleus i chi.
Ymysg cyfoedion, cewch ddysgu ymarferiadau ymwybyddiaeth ofalgar (term arall am feddwlgarwch) fydd yn eich helpu i ymateb yn greadigol i heriau dyddiol tra’n cynnal a chadw cydbwysedd emosiynol a meddylfryd cadarnhaol. Mae meddwlgarwch yn eich helpu i ymdopi gyda newid ac i reoli yn fwy effeithiol: yn agor ffynhonnell newydd o fewnwybodaeth i wneud penderfyniadau gwell gyda’ch cymuned a’ch ysgol.
Disgrifiad
Mae’r cwrs wedi ei seilio ar lyfr clodwiw’r Athro Mark Williams a Danny Penman Mindfulness: Finding Peace in a Frantic World ond mae wedi ei addasu i gwrdd ag anghenion arbennig penaethiaid ysgol. Bydd y cwrs yn dysgu egwyddorion ac ymarferiadau ymwybyddiaeth ofalgar ac yn rhoi sylw i’r ffordd mae meddwlgarwch yn berthnasol i benaethiaid yn ystod y cyfnod hwn o newidiadau sylfaenol ym myd addysg yng Nghymru.
Cwrs peilot yw hwn, yn cael ei redeg gan Mindfulness in Action a Chymru Feddylgar gyda chefnogaeth Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (AGAA).
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cwrs ewch i wefan Mindfulness in Action. Neu ebostiwch iwan@cynefin.org.uk
Format Ar-Lein:
Dysgir y cwrs trwy gyfrwng ‘zoom.us’ – platfform sgwrsio a hyfforddiant ar-lein tebyg i Skype. Mae zoom yn ddiogel ac yn hawdd i’w ddefnyddio, ac mae’n galluogi’r athro a’r grwp i ryngweithio wyneb yn wyneb fel petai pawb gyda’i gilydd mewn ystafell.
Bydd angen i chi allu mynd at gyfrifiadur neu luniadur gyda gwe-gam (webcam) a band-eang cyflym. Mae rhagor o fanylion technegol ar gael fan hyn.
Mae’r cwrs yn cael ei ddysgu gan Iwan Brioc, Cyfarwyddwr Theatre Amgen a astudiodd MA mewn Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor yn 2005. Ers hynny bu’n dysgu cyrsiau i blant ysgol ac oedolion, yn cynnwys cwrs ar-lein Mindfulness in Schools Project o’r enw Begin. Ar hyn o bryd, gyda chymorth grant Cyngor Celfyddydau Cymru, mae’n datblygu cwricwlwm meddwlgarwch newydd sy’n manteisio ar ddulliau mwy creadigol o ddysgu ac sy’n gweddu gyda’r pedwar diben. Mae Iwan Brioc hefyd yn rhan o’r tîm sydd wedi datblygu’r cwricwlwm ymwybyddiaeth ofalgar a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer Arweinwyr Addysg.